Mae bwydlen ein hysgol yn cydymffurfio'n llawn â Rheoliadau Bwyd Iach mewn Ysgolion 2013 ac yn cynnwys cynnyrch lleol, gan gynnwys iogwrt Llaeth y Llan, byrgyrs cig eidion a pheli cig Cymreig gan Edwards o Gonwy, selsig porc Cynllun Gwarant Fferm Edwards o Gonwy, a bara cyflawn Henllan, sydd ar gael bob dydd.
Fel rhan o'n hymrwymiad i iechyd a lles, rydym yn integreiddio'r gwerthoedd hyn ar draws y Cwricwlwm i Gymru. Bob wythnos, yn ystod Dydd Mercher Lles, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dan do ac awyr agored i hyrwyddo lles corfforol a meddyliol. Rydym hefyd yn cydweithio â phartneriaid allanol i ddarparu profiadau cyfoethog, gan gynnwys criced, dawns, hoci, pêl-droed, rygbi tag, a llawer mwy, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn cael cyfleoedd gwych i fod yn heini, yn iach ac i gymryd rhan.
Bwydlen Ysgol Gynradd 2025-26 (PDF)
(Saesneg yn unig)
