Hafan > Ysgol > Diogelu

Diogelu

Diogelu yn ein hysgol

Os oes gennych unrhyw bryderon neu faterion yn ymwneud ag Amddiffyn Plant, cysylltwch â:

Mae Ysgol y Bendigaid William Davies yn cydnabod y cyfrifoldeb moesol a statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles pob plentyn. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu ethos ac amgylchedd o fewn ein hysgol a fydd yn helpu dysgwyr i deimlo'n ddiogel, a’u bod yn cael eu parchu; yn eu hannog i siarad yn agored; ac yn eu galluogi i deimlo'n hyderus ac y bydd rhywun yn gwrando arnynt. Rydym yn ymwybodol o’r arwyddion o gamdriniaeth a diffyg gofal ac yn dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019 i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn cymorth, diogelwch a chyfiawnder effeithiol. Cyfeiriwch hefyd at Bolisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Conwy.

Dyma egwyddorion diogelu craidd ein hysgol:

  • Mae gan bob dysgwr yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag pob math o gamdriniaeth a gwahaniaethu ac i gael eu trin yn gyfartal waeth beth fo’u hoedran, rhyw, tarddiad ethnig, diwylliant, crefydd, iaith, anabledd neu hunaniaeth rywiol.

  • Mae gan bob dysgwr yr hawl i gael ei glywed a mynnu bod ei ewyllys a'i deimladau yn cael eu cydnabod.

  • Mae pob aelod o staff yn deall arfer proffesiynol diogel ac yn glynu at ein cod ymddygiad a pholisïau cysylltiedig eraill.

  • Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb i gydnabod bregusrwydd mewn dysgwyr ac i weithredu ar unrhyw bryder yn unol â'r polisi hwn.