Cartref > Cyfathrebu > Newyddion Diweddaraf > Arddangosfa ‘Railway 200’

Arddangosfa ‘Railway 200’

Ar ddydd Llun 17 Tachwedd a dydd Mawrth 18 Tachwedd, ymwelodd disgyblion o Flynyddoedd 3, 4, 5 a 6 ag arddangosfa ‘Railway200’ yn orsaf drenau Llandudno. Mae 2025 yn nodi pen-blwydd y rheilffordd fodern yn 200 oed - moment mewn hanes a drawsnewidiodd Prydain a’r byd ehangach. Mae arddangosfa Railway200 yn dathlu gorffennol, presennol a dyfodol y rheilffyrdd. Cymerodd ein disgyblion ran mewn gweithgareddau rhyngweithiol, ymarferol a oedd yn tynnu sylw at arloesedd y rheilffyrdd a'r amrywiaeth eang o yrfaoedd o fewn y diwydiant. Ffarweliodd y criw â’r arddangosfa wedi'u hysbrydoli ac yn llawn cynnwrf am ddyfodol y rheilffordd.

Pôb stori newyddion