Cartref > Cyfathrebu > Newyddion Diweddaraf > Diwrnod Gwisgo Coch i'r Ysgol

Diwrnod Gwisgo Coch i'r Ysgol

Ddydd Iau, 16eg o Hydref, fe wnaethon ni gymryd rhan yn Niwrnod Gwisgo Coch i'r Ysgol fel rhan o'n gwaith gyda'r ymgyrch Show Racism the Red Card.

Daeth pawb at ei gilydd wedi gwisgo mewn coch i rannu eu dysgu a chymryd rhan mewn trafodaethau pwysig am hiliaeth, cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch.

Roedd yn gyfle gwych i feddwl am sut gallwn ni i gyd herio hiliaeth, sefyll dros eraill a sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a'u cynnwys yng nghymuned ein hysgol.

Pôb stori newyddion