Cartref > Cyfathrebu > Newyddion Diweddaraf > Enillwyr gwobrau Cadw a WHSI

Enillwyr gwobrau Cadw a WHSI

Ym mis Gorffennaf, roeddem wrth ein boddau o dderbyn gwobr gan Fenter Ysgolion Treftadaeth Cymru (WHSI), ynghyd â Gwobr Cadw, am ein hymchwiliad ysgol gyfan, “Sut mae mudo wedi siapio Llandudno?”

Rydym yn hynod falch o’n dysgwyr a’r gwaith gwych a wnaethant drwy gydol yr ymchwiliad. Roedd eu brwdfrydedd, creadigrwydd a’u hymrwymiad yn gwneud hwn yn gyflawniad arbennig iawn i’n hysgol.

Llongyfarchiadau mawr i’n holl ddysgwyr!

Pôb stori newyddion