Roedd hi’n bleser croesawu Rachel Dathan, Swyddog Datblygu Hoci’r Gogledd yn Hoci Cymru, a ymwelodd â'n hysgol i gynnal sesiynau sgiliau hoci i'r holl ddisgyblion. Fe wnaeth y disgyblion fwynhau’r cyfle i ddatblygu eu technegau, meithrin sgiliau gwaith tîm ac adeiladu hyder yn y gamp.
Ar ôl y sesiynau, fe wnaethom ni drefnu a chymryd rhan mewn gŵyl hoci yn Rydal Penrhos, lle’r oedd cyfle i’r plant ymarfer eu sgiliau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau llawn hwyl a chwarae gemau cystadleuol. Roedd yn brofiad gwych i bawb, ac yn bwysicach na dim, cafodd pawb llawer iawn o hwyl!
Gallwch weld mwy ar dudalen Newyddion Hoci Cymru - Ysgolion lleol yn dod ynghyd mewn cyfleuster newydd yn Rydal Penrhos
