Cartref > Cyfathrebu > Newyddion Diweddaraf > Ysgol Institució Tarragona

Ysgol Institució Tarragona

Ymweliad gan Ysgol Institució Tarragona (Bechgyn)

Pleser oedd croesawu grŵp o fechgyn o Institució Tarragona yng Nghatalwnia am brynhawn o ddysgu, cymdeithasu a gemau.

Yn ystod eu hymweliad, treuliodd y disgyblion amser gyda'n dosbarthiadau Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6, gan rannu ffeithiau diddorol am draddodiadau arbennig Catalwnia a dysgu ffeithiau / enwau anifeiliaid a rhifau i ni. Fe wnaeth ein disgyblion ni, yn eu tro, fwynhau rhannu eu dysgu a'u traddodiadau eu hunain, gan greu cyfnewid diwylliannol gwych i bawb a gymerodd ran.

Roedd yn gyfle gwych i feithrin cyfeillgarwch, dathlu gwahanol ddiwylliannau a dysgu gan ein gilydd.

Pôb stori newyddion